Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 4 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) Mike Hedges Alun Ffred Jones Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Peter Jones (Welsh Govt), Llywodraeth Cymru Professor Jean White, Chief Nursing Officers Peter Wiles, NHS Wales Anthony Barrett, Swyddfa Archwilio Cymru Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Peter Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Digital Health and Care a Peter Wiles, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi a Pherfformiad ynglŷn ag arlwyo a maeth mewn ysbytai.
2.2 Cytunodd yr Athro White i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae’r rhaglen hyfforddi maeth e-ddysgu’n cael ei hariannu a’r amserlen ar gyfer cynnwys yr holl hyfforddiant ar holl gofnodion staff electronig.
2.3 Cytunodd yr Athro White i ysgrifennu at y Pwyllgor ym mis Ebrill gyda gwerthusiad o’r cynllun peilot sy’n cael ei gynnal ar wastraff bwyd yn Ysbyty Llandochau ym mis Mawrth. Byddai hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae’r byrddau iechyd yn eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chasglu gwastraff bwyd. Cytunodd hefyd i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r ffordd y mae hyfforddiant cyn-gofrestru’n cael ei grynhoi.
3 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Ymateb Swyddfa Archwilio Cymru i argymhellion yr adroddiad
3.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â’u hymatebion i’r argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a oedd yn hollol berthnasol i Swyddfa Archwilio Cymru.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nodwyd y papurau.
4.1 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (27 Ionawr 2014)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod y dystiolaeth
6.1 Bu’r Aelodau’n trafod y dystiolaeth a gafwyd yn gynharach a chytunwyd i ystyried y wybodaeth ychwanegol yn gynnar yn ystod tymor yr haf gyda golwg ar gynnal sesiwn dystiolaeth bellach gyda’r Athro White.
7 Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
7.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a fyddai’n cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fynd ar drywydd unrhyw faterion na chawsant eu cynnwys yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
8 Ymgynghoriad ynghylch cod ymarfer archwilio newydd a datganiad ymarfer
8.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru sesiwn friffio ar yr Ymgynghoriad ar god ymarfer archwilio newydd a datganiad ymarfer. Cytunwyd hefyd i anfon nodyn cyfreithiol ynglŷn â’r ymrwymiad penodol mewn perthynas ag archwilio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac a gafodd yr argymhelliad yn Adolygiad Essex ar newid y swyddogaeth hon ei dderbyn.